At: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan: Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth
Dyddiad y cyfarfod: 25 Medi 2013
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Medi - Rhagfyr 2013
1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.
2. Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hyd at doriad y Nadolig.
3. Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.
4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor pan fydd busnes perthnasol yn codi.
5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.
DYDD MERCHER 25 MEDI 2013
Bore yn unig
Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Sesiwn dystiolaeth lafar
Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor
Trafodaeth breifat
Trafodaeth ynglŷn ag ymchwiliad y Pwyllgor i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru
Trafodaeth breifat
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gofal
Sesiwn friffio preifat
DYDD IAU 3 HYDREF 2013
Bore a phrynhawn
Cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau byrddau iechyd – Cynllun De Cymru
Sesiynau tystiolaeth lafar
Trafodaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014/15
Trafodaeth breifat
DYDD MERCHER 9 HYDREF 2013
Bore yn unig
Gofal heb ei drefnu – parodrwydd am y Gaeaf 2013/14
Sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
DYDD IAU 17 HYDREF 2013
Bore a phrynhawn
Gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Sesiynau tystiolaeth lafar
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2014/15 – craffu ar Weinidogion
Sesiynau tystiolaeth lafar
DYDD MERCHER 23 HYDREF 2013
Bore yn unig
Ymchwiliad dilynol: lleihau’r risg o strôc
Sesiynau tystiolaeth lafar
Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)*
Sesiwn friffio preifat
Dydd Llun 28 Hydref – Dydd Sul 3 Tachwedd 2013: Toriad hanner tymor
DYDD IAU 7 TACHWEDD 2013
Bore a phrynhawn
Gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Sesiynau tystiolaeth lafar
DYDD MERCHER 13 TACHWEDD 2013
Bore yn unig
Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)*
Trafodion Cyfnod 2
DYDD IAU 21 TACHWEDD 2013
Bore a phrynhawn
Mynediad at dechnolegau meddygol
Gweithgaredd cyswllt allanol (I’W GADARNHAU)
DYDD MERCHER 27 TACHWEDD 2013
Bore yn unig
Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)*
Trafodion Cyfnod 2
DYDD IAU 5 RHAGFYR 2013
Bore a phrynhawn
Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)*
Trafodion Cyfnod 2
DYDD MERCHER 11 RHAGFYR 2013
Bore yn unig
Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)*
Trafodion Cyfnod 2
*Noder: Mae’r eitemau sydd wedi’u marcio â ser yn ddibynnol ar gytundeb y Cynulliad Cenedlaethol i egwyddorion cyffredinol Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ystod y ddadl Cyfnod 1.